
PrEP (Proffylacsis Cyn-gysylltiad) yw eich allwedd i iechyd rhywiol hyderus, di-bryder. O’i chymryd yn gywir, mae’r dabled hynod effeithiol hon yn atal trosglwyddiadau HIV ac yn rhoi’r rhyddid i chi gofleidio’ch rhywioldeb gyda thawelwch meddwl.
Mae ein hymgyrch, ‘Wyt ti’n PrEPped?,’ a fydd yn rhedeg o 10 tan 28 Mawrth 2025, wedi ymroi i wella ymwybyddiaeth cymunedau yng Nghymru am PrEP a sut i gael gafael ynddo. Gyda’n gilydd rydym yn chwalu stigma ac yn sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn ymwybodol o’r camau y gallwn eu cymryd i ddileu achosion newydd o HIV.
Lawrlwythwch y Pecyn Cymorth i Randdeiliaid
Byddwch yn rhan o’r ymgyrch.
Lawrlwythwch ein Pecyn Cymorth i Randdeiliaid i helpu i ledaenu’r gair am PrEP a grymuso aelodau’ch cymuned drwy rannu gwybodaeth â nhw a all newid bywydau.
Y tu mewn i’r pecyn cymorth am ddim fe welwch chi’r canlynol:
– Posteri a ffeithluniau i’w harddangos.
– Cynnwys cyfryngau cymdeithasol y gellir ei rannu â’ch rhwydweithiau.
– Ffeithiau ar sail tystiolaeth a chwalu mythau am PrEP.
– Awgrymiadau ac adnoddau ar gyfer ymgysylltu â’r gymuned.
Beth yw PrEP?
Mae PrEP (Proffylacsis Cyn-gysylltiad) i bawb! Mae’n feddyginiaeth ddiogel ac effeithiol sydd, o’i chymryd yn gywir, yn atal HIV. Gall PrEP leihau’r risg o drosglwyddo HIV gan fwy na 99%. O gymryd PrEP, rydych chi’n rheoli pethau.
Sut y gellir Cael PrEP AM DDIM yng Nghymru
Mae PrEP ar gael yn rhad ac am ddim ac yn hawdd gan GIG Cymru. Dyma sut y gallwch chi ddechrau arno:
- Ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru am wybodaeth am sut i gael mynediad at wasanaethau PrEP: https://tinyurl.com/PrEPWales
Ymunwch â’r Mudiad i Ddileu HIV
Trwy ddewis PrEP, rydych chi’n cymryd cam pwerus tuag at amddiffyn eich hun, eich partner(iaid), a’ch cymuned.
Helpwch ni i leihau stigma, lledaenu ymwybyddiaeth a sicrhau bod pawb yn gwybod bod modd i bawb yng Nghymru atal HIV.
Os ydych yn profi problem wrth ddefnyddio’r Pecyn Cymorth i Randdeiliaid, neu os oes gennych gwestiwn, anfonwch e-bost atom yn fasttrackcities@hiv.wales
