Mae ein hymgyrchoedd a’n gwaith cymunedol wrth wraidd popeth a wnawn.
O weithgareddau a phrosiectau cymunedol lleol i arwain a chymryd rhan mewn ymgyrchoedd cenedlaethol a byd-eang. Yn Fast Track Cymru, ein nod yw gweithio gyda gwahanol gymunedau a rhanddeiliaid i gyrraedd ein nodau ar gyfer 2030.
Prosiectau Cyfredol

Mae ein hymgyrch, ‘Wyt ti’n PrEPped?,’ a fydd yn rhedeg o 10 tan 28 Mawrth 2025, wedi ymroi i wella ymwybyddiaeth cymunedau yng Nghymru am PrEP a sut i gael gafael ynddo.

Eisiau deall stigma HIV yn well neu gael awgrymiadau i’w herio? Darllenwch ymlaen.

HIV yr 21ain Ganrif yng Nghymru – Arddangosfa Ffotograffau
Mae ein harddangosfa ffotograffau HIV yr 21ain Ganrif bellach ar gael i’w lawrlwytho mewn fformat A3 neu’n fwy mewn fformat poster A1 ar ein gwefan. Mae’r arddangosfa’n cynnwys deuddeg panel sy’n dangos pobl sy’n byw’n dda gyda HIV yng Nghymru, ac yn trafod stigma, datgelu statws, ac adnoddau.

Prosiect Ymgysylltu â HIV (HIVE)
Cafodd prosiect Ymgysylltu â HIV (HIVE) ei lansio yng Nghaerdydd a’r Fro yn 2023 i ganolbwyntio ar faterion sy’n ymwneud ag ymgysylltu â gofal HIV.

Addysg HIV: Adnoddau i Ysgolion yng Nghymru
Yn 2024, cydweithiodd Fast Track Cymru â WNO, Uned Cwricwlwm Caerdydd, a’r Fro ar brosiect etifeddiaeth “Three Letters”, gan guradu cyfres o adnoddau celfyddydol creadigol ar thema addysg HIV. Mae’r adnoddau hyn bellach ar gael i bob dysgwr ysgol yng Nghymru.

Cwilt Cymunedol HIV (Gogledd Cymru)
Fe wnaethom ddathlu Diwrnod AIDS y Byd 2024 yng Ngogledd Cymru gyda lansiad Cwilt Cymunedol Betsi – cydweithrediad rhwng yr Adran Cydraddoldeb ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yr Adran Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor, a Fast Track Gogledd Cymru.
